Croeso i Wobrau Gwir Flas Bwyd a Diod Cymru 2008/09.
Dyma’r seithfed flwyddyn i ni gynnal y gystadleuaeth hon sy’n cydnabod safon uchel, dyfeisgarwch a rhagoriaeth yn y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru. Erbyn hyn, mae cannoedd o eitemau a gwasanaethau’n cael eu beirniadu bob blwyddyn.
Eleni, am y tro cyntaf, ceir dosbarth sy’n gwobrwyo cynhyrchion pysgod a bwyd môr arbennig ac rydym wedi rhannu dosbarth Cynnyrch Arbenigol y Gwir Flas i wahanol sectorau yn hytrach na rhannu yn ôl maint. Rydym hefyd wedi cyflwyno dosbarth Cyrchfan Twristiaeth Fwyd y Gwir Flas i gydnabod cyfraniadau at hyrwyddo Cymru fel cyrchfan twristiaeth fwyd.
Mae’r broses ymgeisio yr un mor syml ag yr oedd y llynedd gyda dim ond un ffurflen i’w llenwi. I lawrlwytho pecyn cais, cliciwch ar y botwm uchod. Mae hyn yn rhoi’r holl wybodaeth y mae arnoch ei hangen am y dosbarthiadau a sut i gyflwyno’ch cynnyrch neu’ch busnes yn gywir. Os hoffech gopi trwy’r post, gallwch ffonio 0800 085 3663 neu e-bostio
gwirflas@quadrant.uk.com
Os yw’n well gennych anfon eich cais ar-lein, cliciwch ar y botwm uchod.
Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau yw 30 Gorffennaf 2008 ac fe gyhoeddir enwau’r enillwyr yn y seremoni wobrwyo ar nos Iau 6 Tachwedd yn y Vale Hotel, Golf & Spa Resort yn Hensol ger Caerdydd. Os hoffech ragor o wybodaeth am yr achlysur, ffoniwch Linell Arbennig y Gwir Flas ar 0800 085 3663.